Llety Arall
Friday, 24 March, 2023
Fri, 24 Mar
- Lle Arall, 9 Palace Street, Caernarfon, LL55 1RR
Llety Arall

Menter Gymunedol ydy Llety Arall, sydd wedi'i leoli mewn hen warws ar Stryd y Plas, Caernarfon.
Mae Lle Arall yn ofod cymunedol a chymdeithasol ar lawr gwaelod yr adeilad, ac wedi sefydlu ei hun fel canolbwynt i ddigwyddiadau diwylliannol a mwy yn nhref Caernarfon. Mae'n ystafell aml-bwrpas sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd, gweithgareddau, hyfforddiant neu unrhyw fath o ddigwyddiad. Mae cyfleusterau digidol ar gael yn Lle Arall i’ch galluogi i gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau hybrid, h.y. digwyddiad wyneb i wyneb gyda'r opsiwn i eraill ymuno yn rhithiol. Mae posib archebu am fore, pnawn, gyda’r nos, neu am y diwrnod cyfan. Mae offer digidol ar gael, ac mae modd llogi cegin hefyd am bris ychwanegol.