Welsh Government - Waste, Recycling and a Circular Economy.
Welsh Government - Waste, Recycling and a Circular Economy.
Ers datganoli mae Cymru wedi arwain ar lefel fyd eang ym maes ailgylchu. Mae pob aelwyd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn, gan ddangos sut y gall camau bach arwain at newid sylweddol. Mae ailgylchu bellach yn rhan o’n harferion ac ynghlwm wrth ddiwylliant Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae Cymru’n sicr yn wlad sy’n ailgylchu!
Mae’r modd rydym yn rheoli ein gwastraff a’r adnoddau rydym yn eu defnyddio bellach yn bwysicach nag erioed; yr angen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yw ein her fwyaf; mae mwy a mwy o ymwybyddiaeth o effaith yr hyn rydym yn ei brynu a’r gwastaff rydym yn ei gynhyrchu; mae mwy a mwy o gyfleoedd economaidd i greu atebion sy’n garedig i’r amgylchedd
Sicrhau bod Cymru’n wlad fwy gwyrdd, mwy cyfartal a mwy ffyniannus yw ein nod fel Llywodraeth. O fewn y strategaeth hon mae’r amcanion o ran bod yn ddiwastraff, cyflawni carbon net o sero a byw o fewn adnoddau’r blaned yn dod ynghyd. Rydym yn gwerthfawrogi ein hamgylchedd ac yn ymwybodol o’n heffaith ar y byd yn ehangach. Mae dyletswydd arnom tuag at genedlaethau’r dyfodol ac mae’n rhaid i ni ei chyflawni.
-------------------------------------------------------------------------------------------------
Since devolution, Wales has become a global leader in recycling. Every household has played its part, showing how small steps can lead to fundamental change. It’s now a part of who we are, embedded in the culture of 21st century Wales. Recycling is what we do.
How we manage our waste and the resources we use has become even more crucial; the need to tackle climate change has become the single greatest challenge of our time; awareness of the impact of what we buy and the waste we generate is growing; economic opportunities for more environmentally-friendly solutions are rapidly expanding
Making Wales a greener, more equal, and more prosperous country is what as a Government we are working to deliver. Within this strategy, the objectives of zero waste, zero net carbon and living within the planet’s resources come together. As a nation we value our environment and are mindful of our impact on the wider world. We have a duty to future generations that we must discharge.