Ffermio Cynaliadwy a’n Tir
Thursday, 10 October, 2019 | 10:30 - 12:30
Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth, Aberystwyth
Tickets

Y ganolfan cynllunio iaith
Ein gweledigaeth yw cynnal canolfan ragoriaeth mewn polisi a chynllunio iaith sy'n cyfrannu at fywiogrwydd y Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol erail
Ydy cynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru – Ffermio Cynaliadwy a’n Tir – yn cryfhau neu’n gwanhau sefyllfa’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd?
Yn dilyn seminar debyg a gynhaliwyd llynedd i drafod Brexit a’n Tir mae’r seminar hon yn gyfle i gynllunwyr iaith a chynrychiolwyr mudiadau’r Gymraeg ddysgu mwy am y cynigion cyfredol, ynghyd â’u goblygiadau i gymdogaethau Cymraeg gwledig. Bydd yn gyfle hefyd i Gynllunwyr Iaith Cymru ddatblygu ymateb cyffredin i’r ymgynghoriad cyhoeddus sy’n cau ar 30 Hydref 2019.
Cadeirydd: Gwynfryn Evans, Is-lywydd Anrhydeddus IAITH
Cyfranwyr: Eirwen Williams, Menter a Busnes
Bydd Eirwen yn rhannu canfyddiadau prosiect diweddar M&B: Iaith y Pridd.
Gareth Ioan, Cadeirydd IAITH Cyf.
Bydd Gareth yn cynnig gorolwg o’r cynigion diweddaraf o safbwynt polisi a chynllunio iaith.
Iaith Cyf
Y ganolfan cynllunio iaith
Ein gweledigaeth yw cynnal canolfan ragoriaeth mewn polisi a chynllunio iaith sy'n cyfrannu at fywiogrwydd y Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol erail