Gwynt Glas Supplier Event
Dydd Mercher, 1 Mawrth, 2023 | 10:30 - 12:00
Parc y Scarlets, Llanelli SA14 9UZ, Llanelli
Tocynnau
Beth yw Gwynt Glas?
Mae Gwynt Glas yn bartneriaeth rhwng EDF Renewables UK a DP Energy i ddatblygu 1GW o wynt arnofiol yn y Môr Celtaidd sy’n cynhyrchu ynni glân ac yn hybu twf rhanbarthol.
Rydym yn cynnal gweithgareddau datblygu cychwynnol gyda'r bwriad o gael Cytundeb Prydlesu gan Ystâd y Goron yn gynnar yn 2024. Gallai gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd sicrhau dros 3,000 o swyddi a £682 miliwn mewn cyfleoedd cadwyn gyflenwi leol erbyn 2030, gan gefnogi cymunedau arfordirol a chreu buddion hirdymor i’r rhanbarth*.
Pam ddylwn i fynychu'r digwyddiad hwn?
Mae’r digwyddiad hwn i gyflenwyr wedi’i anelu at fusnesau lleol a allai fod â diddordeb mewn tendro am gyfleoedd posibl yn deillio o adeiladu a gweithredu Gwynt Glas, pe baem yn llwyddo i gael Cytundeb Prydlesu.
Yn y digwyddiad byddwch yn clywed gan dîm Gwynt Glas, a chael gwybod sut i gofrestru fel cyflenwr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect.
Pryd mae'r digwyddiad yn dechrau?
Ymunwch â ni o 10.30 am goffi a rhwydweithio, gyda'r sesiwn yn dechrau am 11.00.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.
Tîm Gwynt Glas
https://www.gwyntglas.com/