Gweithdy Ymarferol ar y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol
Dydd Mawrth, 18 Mehefin, 2019 | 09:30 - 16:00
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Tocynnau

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau ac offer iaith cyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog.
Mae’r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o offer gwirio iaith eraill.
Mae’n gwneud gwaith safoni termau, ac yn datblygu geiriaduron electronig ar sawl platfform gwahanol gan gynnwys ar ffurf gwefannau ac apiau.
Mae’n datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we.
Mae’r Uned hefyd yn datblygu deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith.
Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â nifer o adrannau academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Cymraeg, Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cymdeithaseg a Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn 2016 bu’r Uned yn un o sefydlwyr Rhwydwaith Ymchwil Technoleg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, sy’n dod ag ymchwilwyr yn y maes hwn at ei gilydd o fewn y brifysgol.
Mae ganddi hefyd gysylltiad agos â byd busnes a diwydiant, ac mae’n ymgymryd â chynlluniau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
Fe'ch gwahoddir i weithdy ymarferol ar sut i wneud defnydd llawn o adnoddau'r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 18 Mehefin, 2019.
Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer datblygwyr meddalwedd, hacwyr, ieithwyr cyfrifiadurol, athrawon cyfrifiadureg, gwirfoddolwyr technoleg iaith, a phawb sy'n ymddiddori mewn defnyddio adnoddau'r Porth mewn cynnyrch cyfrifiadurol Cymraeg ac amlieithog.
Byddwn yn ceisio cynnal gweithdai i ateb diddordebau penodol y rhai fydd yn bresennol. A wnewch chi felly nodi yn eu trefn pa rai o'r gweithdai isod fyddai fwyaf o ddiddordeb i chi, gyda 5 yn dynodi'r un sydd o ddiddordeb mwyaf i chi, ac 1 yn dynodi'r un sydd leiaf o ddiddordeb i chi.Atebwch yn y blwch gwybodaeth ychwanegol.
- Adnoddau Adnabod lleferydd
- Adnoddau Testun i leferydd
- Gwasanaethau API ac ategynion (Vocab, Cysill Ar-lein, Termau, Lemateiddiwr)
- Adnoddau Cyfieithu Peirianyddol
- Cyfrannu i Common Voice
Bydd y gweithdai yn cael eu rhedeg gan staff yr Uned Technolegau Iaith a'u partneriaid. Ariennir y gweithdy hwn gan yr ESRC drwy Gronfa Cyflymu Effaith Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Agenda
9.30 Cyrraedd & Phaned
10.00 Croeso a throsolwg
- Y Porth Technolegau Iaith a hybu'r sector meddalwedd Cymraeg: Delyth Prys
- Adnoddau Lleferydd a Chyfieithu: Dewi Bryn Jones
- Gwasanaethau API ac ategion: Stefanol Ghazzali
11.15 - Paned
11.30 - 12.30 - Gweithdai cyfochrog
12.30 - 13.00 - Cinio
13.00 - 15.00 - Gweithdai cyfochrog - parhau o'r bore neu weithdai newydd
15.00 - 15.30 - Paned
15.30 - 16.00 - Trafodaeth i gloi: Sgwrsfotiaid, dadansoddwyr ystyr a'r ffordd ymlaen
16.00 Cau
Gofynnir i fynychwyr ddod â'u gliniaduron eu hunain gyda nhw i'r digwyddiad.
Uned Technolegau Iaith