21/22 Casglu Data Ansoddol (a Campws Singleton, Faraday B)
Dydd Mawrth, 8 Chwefror, 2022 | 10:00 - 13:00
Campws Singleton, Faraday B,
Tocynnau
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno nifer o dechnegau casglu data ansoddol, megis cyfweliadau ansoddol (a lled-ansoddol) ag unigolion, trafodaethau grŵp ffocws, arsylwadau cyfranogwr, etc. Hefyd, byddwn ni'n archwilio dadansoddi data, er mwyn i chi ei ddefnyddio yn eich prosiect ymchwil.
Mae ar agor i fyfyrwyr ymchwil ar bob cam o'u hymgeisyddiaeth ac mae'n gwrs rhyngweithiol sy'n tynnu ar enghreifftiau ar draws y gwyddorau a phrofiadau'r cyflwynydd wrth gynnal cyfweliadau ansoddol mewn ardaloedd yn Affrica ac Asia y mae rhyfel wedi effeithio arnynt.
I bwy mae hyn?
- Unrhyw fyfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig, ar unrhyw gam astudio.
- Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sy'n ystyried neu'n bwriadu defnyddio technegau ansoddol yn eu hymchwil
Beth byddaf yn ei ddysgu?
- Dealltwriaeth o amrywiaeth o dechnegau casglu a dadansoddi data ansoddol gwahanol
- Y gallu i gynllunio'r defnydd o gasglu a dadansoddi data ansoddol yn eich prosiect ymchwil chi