Bywyd ar yr afon – Taith draws gwricwlaidd lawr afon (cyflwynir yn Saesneg)
Dydd Mercher, 18 Mai, 2022 | 18:30 - 20:00
Microsoft Teams,
Tocynnau

Yn falch o arwain y ffordd at ddyfodol gwell i Gymru trwy reoli'r amgylchedd ac adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Proud to be leading the way to a better future for Wales by managing the environment and natural resources sustainably.
O'r cylch dŵr i addasiadau anifeiliaid, bywyd cyfrinachol y brithyll i sut i adeiladu gwâl dyfrgwn, bydd y weminar hon yn canolbwyntio ar afonydd Dyfrdwy a Thaf ond gall unrhyw un o’r gweithgareddau gael eu defnyddio i ddysgu mwy am unrhyw afon yng Nghymru a thu hwnt. Yn drawsgwricwlaidd o ran cynnwys, bydd y sesiwn hon yn tynnu sylw at sut y gall dysgwyr wella eu gwybodaeth am drafferthion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ein hafonydd.
Cyflwynir y sesiwn yma drwy gyfrwng y Saesneg.
Adborth ar y cwrs yma:
Rebecca Unsworth, Ysgol Gynradd Rhaeadr, Powys: “Taniodd lawer o syniadau ardderchog ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Edrych ymlaen at rannu hyn â gweddill y staff.”
Lisa Watts, Ysgol Gynradd Crist y Brenin, Caerdydd: “Sesiwn eithriadol o dda. Digonedd o syniadau a gweithgareddau defnyddiol i’w treialu gyda’r disgyblion. Diolch yn fawr.”
Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales