0 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



15 & 29 Medi 2021 | 9.30am - 12.30pm

 

Nod

Darparu hyfforddiant manwl i swyddogion diogelu, arweinwyr diogelu, neu unigolyn diogelu dynodedig mewn mudiad. Bydd y cwrs hwn yn cefnogi ac yn cynorthwyo’r unigolyn dynodedig â chyfrifoldeb sylfaenol dros reoli diogelu ac adrodd pryderon am blant, pobl ifanc, ac oedolion mewn perygl, o ran y cyfrifoldebau, a’r gydymffurfiaeth gyfreithiol gan gynnwys rhannu’r polisi, y gweithdrefnau, a’r prosesau diogelu ar draws y mudiad.  

 

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs dylai cyfranogwyr y cwrs allu:  

  • Disgrifio gwerthoedd ac egwyddorion craidd ar gyfer rôl swyddog diogelu  
  • Deall eu rôl o ran bodloni, gwella, a gwreiddio polisi, ymarferion, a gweithdrefnau diogelu yn eu mudiad 
  • Deall y ddeddfwriaeth a chanllawiau’r Llywodraeth sy’n sail i ddiogelu yng Nghymru  
  • Deall eu cyfrifoldebau o ran ymateb i faterion diogelu sy’n gysylltiedig â buddiolwyr, aelodau staff, neu wirfoddolwyr a chymhwyso sgiliau i reoli achosion o ymarfer gwael a cham-drin yn eu mudiad a’r tu allan iddo  
  • Dod o hyd i ystod eang o adnoddau a’u defnyddio yn eu mudiad 
     

I bwy mae’r sesiwn

Darperir y cwrs ar gyfer unigolion â chyfrifoldeb diogelu dynodedig yn eu mudiad. Gallai hyn gynnwys: swyddogion diogelu dynodedig, arweinwyr diogelu, dirprwyon diogelu, rolau Adnoddau Dynol â chyfrifoldeb diogelu (y rhai sy’n gyfrifol am recriwtio staff ar gyfer rolau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, ac oedolion mewn perygl), ac unrhyw un sy’n penodi neu sy’n rheoli unigolion yn y rolau hyn. 

Ar ôl cwblhau’r cwrs, rhoddir tystysgrif presenoldeb i bob cyfranogwr.  

Cael gwybod mwy


WCVA

WCVA / CGGC

Fel aelod bydd gennych fynediad at ystod eang o adnoddau a chymorth. Rydym hefyd yn hoff o gynnwys ein haelodau cyn i ni wneud penderfyniadau o bwys sy’n effeithio ar y trydydd sector.

WCVA is the national membership organisation for the third sector in Wales. Our vision is for the third sector and volunteering to thrive and improve well-being for all. We aim to achieve this by influencing, connecting and enabling.

[email protected]