Gŵyl Maldwyn
Dydd Gwener, 24 Mehefin, 2022 | 18:00 - Dydd Sul, 26 Mehefin, 2022 | 01:00
Ffermdy Gwaenynog, Dolanog
Tocynnau
Mae Gŵyl Maldwyn yn ôl yn 2022 gyda safle newydd a 10 band yn chwarae dros y penwythnos!
Mae y criw trefnu yn edrych ymlaen i groesawu chi i Gwaenynog, Dolanog am benwythnos o ddiwylliant a cherddoriaeth Gymraeg o'r safon uchaf gyda rhai o artisitiaid mwyaf adnabyddus Cymru!
Bwciwch eich ticed penwythnos yn gynnar ac arbedwch £5 o bris tocyn Gwener a Sadwrn ar wahan!
Dydi y cynning yma ddim ond ar gael tan ddiwedd mis Mai, a mae cyfyngiad o'r niferoedd o'r ticedi yma sydd ar gael felly cyntaf i'r felin!
Mae y pris tocyn yn cynnwys ffi bwcio sydd yn 2.5% + 40c ar ben y pris tocyn. Mae y prisau isod heb y ffi bwcio.
Tocyn penwythnos (dros 16) £25 - dim ond ar gael tan ddiwedd mis Mai
Tocyn Gwener oedolyn (dros 16) £15 - ar gael ar y diwrnod
Tocyn Sadwrn oedolyn (dros 16) £15 - ar gael ar y diwrnod
Tocyn plentyn (11-16) Gwener neu Sadwrn £5 - ar gael ar y diwrnod
Plant dan 11 am ddim
Bydd tocynnau i'r ymryson ar gael ar y dydd a ddim yn cael eu gwerthu ar lein o flaen llawr. Mae tocyn Sadrwn neu penywythnos yn cynnwys yr ymryson. I fynychu y'r ymryson yn unig bydd cost o £5
Nid yw hi yn bosib cael eich arian yn ôl ar ôl prynu tocyn ond cewch ei drosglwyddo i rhywun arall. Plis cystylltch a ni trwy o wefan www.gwylmaldwyn.cymru i adael ni wybod pwy rydych wedi trosglywddo i fel bod ni yn gallu sicrhau bod y tocyn dal yn ddilys.