56 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Iechyd a Lles Ymchwilwyr Ôl-radd

Cyflwynydd: Dr Gwawr Ifan

Yn wreiddiol o Sir Benfro, derbyniodd Gwawr ei phrofiadau cerddorol cynnar o berfformio a chyfansoddi yn Ysgol y Preseli, Crymych, cyn mynd ymlaen i astudio Gradd BMus mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl graddio yn 2007, derbyniodd ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wneud MA (2008) a PhD (2012) yn canolbwyntio ar gerddoriaeth mewn iechyd a lles yng Nghymru. Mae’r maes ymchwil hwn yn parhau i fynd â’i bryd, ac yn ei rôl fel Uwch-Ddarlithydd mewn Cerddoreg yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor, mae’n cydlynu modiwlau is-radd ac ôl-radd sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth yn y gymuned a cherddoriaeth, iechyd a lles.    

Yn 2018, dilynodd Gwawr gwrs hyfforddi mewn sgiliau cwnsela, gan ehangu ar ei diddordeb ym maes iechyd a lles. Cymhwysodd fel cwnselydd yn 2021, ac mae bellach yn gwirfoddoli gydag elusen Cruse.    

Amcanion y gweithdy hwn yw: 

  • Adfyfyrio ar eich dulliau o ymdopi â straen
  • Ystyried y berthynas rhwng pwysau gwaith, straen ac iechyd meddyliol a chorfforol
  • Adnabod sut i osod ffiniau rhwng gwaith a bywyd personol
  • Rhannu arferion da am ddulliau ymlacio a lleihau straen
  • Dysgu ble i fynd am fanylion a gwybodaeth pellach

Cynnwys: 

  • Sut ydych chi’n ymdopi â phwysau gwaith a straen?
  • Y berthynas rhwng iechyd meddyliol a chorfforol
  • Gosod ffiniau rhwng gwaith a bywyd personol
  • Arferion da: Ymlacio a lleihau straen
  • Ble i fynd am wybodaeth pellach

Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: 

  • Gweld sut mae pwysau gwaith a straen yn effeithio ar iechyd a lles
  • Dewis pa ddulliau o ymlacio a lleiau straen sy’n effeithiol iddynt
  • Gosod ffiniau rhwng gwaith a bywyd personol
  • Dod o hyd i fanylion pellach am ddulliau effeithiol o ymlacio a lleihau straen.

 

Trefnir y digwyddiad hwn fel rhan o Rhaglen Sgiliau Ymchwil y Coleg. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn os ydych chi'n fyfyriwr ymchwil / academydd gyrfa gynnar.  Cysylltwch gyda Lois McGrath ([email protected]) am fwy o wybodaeth. 

 


Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Logo Coleg Cymraeg

Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio yn effeithiol mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf.

[email protected]