CYNHADLEDD TECHNOLEG A’R GYMRAEG 2019
Dydd Gwener, 25 Ionawr, 2019 | 09:30 - 16:30
Y Ganolfan Rheolaeth, Ysgol Busnes Bangor, Bangor
Tocynnau

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau ac offer iaith cyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog.
Mae’r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o offer gwirio iaith eraill.
Mae’n gwneud gwaith safoni termau, ac yn datblygu geiriaduron electronig ar sawl platfform gwahanol gan gynnwys ar ffurf gwefannau ac apiau.
Mae’n datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we.
Mae’r Uned hefyd yn datblygu deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith.
Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â nifer o adrannau academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Cymraeg, Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cymdeithaseg a Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn 2016 bu’r Uned yn un o sefydlwyr Rhwydwaith Ymchwil Technoleg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, sy’n dod ag ymchwilwyr yn y maes hwn at ei gilydd o fewn y brifysgol.
Mae ganddi hefyd gysylltiad agos â byd busnes a diwydiant, ac mae’n ymgymryd â chynlluniau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
CYNHADLEDD TECHNOLEG A’R GYMRAEG 2019
Dydd Gwener, 25 Ionawr, 2019, yn Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor 9.30 y bore i 4.30 y prynhawn
Bydd rhaglen y gynhadledd yn dilyn.
Y drydedd yn ein cyfres ar gyfer academyddion ac ymarferwyr sydd â diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol, ac yn arbennig, y Gymraeg.
I’w agor gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol fydd yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru
Ymhlith y siaradwyr eraill bydd:
Claudia Soria, Sefydliad Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol “A. Zamplli”, Pisa, yr Eidal: The DLDP’s Digital Language Survival Kit
Kelly Davis, Mozilla: Mozilla’s Deep Speech Project for Speech Recognition
Teresa Lynn, DCU, Iwerddon: Machine Translation and the Irish Experience
Myfyr Prys, Cysylltai KTP Cymen / Prifysgol Bangor: Cyfieithu Peirianyddol Parth Benodol
Jason Evans, Wikimediwr Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Wicipedia Cymraeg a Data Cymraeg Wikidata
Themâu’r gynhadledd fydd:
- Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg
- Strategaethau digidol ac adfywiad iaith
- Adnabod Lleferydd ar gyfer y Gymraeg
- Technolegau iaith fel gyrrwr i’r economi
Noddir y gynhadledd gan Lywodraeth Cymru
a Gyda chefnogaeth Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC Prifysgol Bangor.
Uned Technolegau Iaith