Cyflwyniad i ddiogelu data yn y sector gwirfoddol (Cymraeg)
Dydd Iau, 27 Ebrill, 2023 | 10:00 - 13:00
CGGC, Zoom
Tocynnau

Fel aelod bydd gennych fynediad at ystod eang o adnoddau a chymorth. Rydym hefyd yn hoff o gynnwys ein haelodau cyn i ni wneud penderfyniadau o bwys sy’n effeithio ar y trydydd sector.
WCVA is the national membership organisation for the third sector in Wales. Our vision is for the third sector and volunteering to thrive and improve well-being for all. We aim to achieve this by influencing, connecting and enabling.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg
Amcanion
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi gwybodaeth allweddol i chi am ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU, gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ar gyfer y DU a’r UE, gan roi ymwybyddiaeth i chi o ddiogelu data a’i effaith ar eich rôl.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:
- Defnyddio terminoleg Diogelu Data allweddol yn hyderus
- Deall egwyddorion diogelu data
- Defnyddio’r wybodaeth i gyflawni’ch rôl mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth
- Egluro sut i lunio hysbysiad preifatrwydd
- Disgrifio’r prif resymau pam mae elusennau wedi cael dirwyon gan y rheoleiddiwr
Ar gyfer pwy mae'r cwrs
Bwriedir y cwrs hwn i unrhyw aelod o staff sy’n trin data personol fel rhan o’u gwaith bob dydd. Gallai’r rhain fod yn arweinwyr diogelu data, ac unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol mewn diogelu data.
WCVA