47 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.

Data Cymru

Er bod y Cyfrifiad yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar lu o bynciau – ac ystadegau swyddogol sy’n sail i’n system ystadegau poblogaeth bresennol – mae ond yn gwneud hynny unwaith y degawd. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), felly, yn awyddus i weddnewid ei hymagwedd at ystadegau poblogaeth a chymdeithasol er mwyn gallu cynhyrchu ystadegau sy’n amserol, yn fwy aml, ac sy’n gallu addasu’n gyflym i anghenion newidiol defnyddwyr.

Wrth graidd y rhaglen waith gyffrous hon, y bydd y SYG yn ymgynghori arni, bydd defndd ehangach ar ffynonellau data sy’n bodoli’n barod o bob rhan o’r sector cyhoeddus (‘data gweinyddol’). Drwy ddod â gwybodaeth ynghyd o’r ffynonellau hynny a mwy, mae’r SYG yn gobeithio cyflenwi’r data a’r dadansoddiad o’r radd flaenaf mae eu hangen i lywio penderfyniadau lleol a chenedlaethol yn y Deyrnas Unedig, gwella bywydau ac adeiladu at y dyfodol.

Yn y weminar hon, byddwch chi’n clywed gan y SYG ynglŷn â’r cynlluniau hyn, yr ymgynghoriad a sut y bydd eich adborth chi’n helpu i lywio dyfodol ystadegau poblogaeth.

Sylwch, y gweminar fydd:

  • yn Saesneg yn unig, ond cewch gyfle i ofyn cwestiynau / codi sylwadau yn Gymraeg drwy’r swyddogaeth sgwrsio.
  • wedi’i recordio ac ar gael i’r cyhoedd ar wefan Data Cymru yn dilyn y digwyddiad. Bydd camerâu a meicroffonau cynrychiolwyr i ffwrdd yn ddiofyn yn ystod y weminar.

Mae'r cofrestru'n cau ddydd Mercher 14 Mehefin 2023.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected].

Sylwer: Bydd cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu rhannu yn agosach at yr amser.

Byddwn ni (Data Cymru) yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddir i gydgysylltu â chi ynghylch â'r digwyddiad hwn byddwn yn storio’r wybodaeth hon nes bod y digwyddiad drosodd. Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â chydweithwyr perthnasol Data Cymru a chydweithwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn prosesu data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.


Data Cymru

Data Cymru

Rydym yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol, gan gynnwys:

  • Cymorth i gyrchu, casglu neu goladu data
  • Dadansoddi data
  • Cyflwyno data’n effeithiol
  • Cyngor ar sut orau i ymgymryd ag ymchwil
  • Cymorth i ddarganfod beth mae dinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth/ cwsmeriaid yn meddwl
  • Hyfforddi’ch staff mewn pynciau perthnasol fel Ystadegau Sylfaenol, Cyflwyno Data, Dylunio a Dadansoddi Arolygon, Dylunio Holiaduron ac ati
  • Darparu mynediad cost-effeithiol i amrediad o setiau data masnachol.

We offer a range of specialist support designed to help you find and use data effectively, including:

  • Help to source, collect, or collate data
  • Data analysis
  • Effective data presentation
  • Advice on the best ways to undertake research
  • Help to find out what citizens, service users/customers think
  • Training your staff in relevant topics such as Basic Statistics, Presenting Data, Managing Performance, Survey Design & Analysis, Questionnaire Design etc.
  • Providing cost-effective access to a range of commercial data sets.

[email protected]