Tyfu - Diffinio – Cyflawni gyda’n Gilydd
Dydd Iau, 23 Mawrth, 2023 | 09:30 - 14:00
Gwesty’r Metropole, Llandrindod
Tocynnau


The county council is responsible for delivering a wide range of local services across Powys, like education, transport, planning, libraries and waste management.
Mae'r cyngor sir yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau lleol ar draws Powys, fel addysg, trafnidiaeth, cynllunio, llyfrgelloedd a rheoli gwastraff.
Busnesau Canolbarth Cymru – dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch ar gyfer y dyfodol er mwyn diwallu eich nodau busnes.
Bydd y digwyddiad ymgysylltu Tyfu – Diffinio – Cyflawni Gyda'n Gilydd, a gynhelir gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn cael ei gynnal ar fore dydd Iau, 23 Mawrth i roi cyfle i chi, busnesau Canolbarth Cymru i ddod at eich gilydd a sôn am yr hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer y dyfodol i gyflawni eich nodau busnes. Dewch draw i ddeall pa gymorth ac arweiniad sydd ar gael i chi yn y meysydd caffael, sgiliau recriwtio, a hyfforddiant. Os ydych chi'n fusnes yng Ngheredigion a Phowys sy'n ystyried eich anghenion gweithlu yn y dyfodol, dewch i ymuno â ni am y bore yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod.
Dewch i gael eich ysbrydoli gan fusnesau eraill sydd wedi wynebu heriau tebyg, bydd cyfle i rwydweithio ac archwilio'r cyfleoedd ar gyfer uwchsgilio, hyfforddiant neu brentisiaethau i helpu eich busnes nawr ac i'r dyfodol.
Ymhlith y pynciau allweddol a fydd yn cael eu harchwilio yw Sgiliau Gwyrdd a Net Sero; edrych ar ffyrdd o baratoi ac addasu eich sefydliad a'ch cadwyni cyflenwi ar gyfer yr economi werdd, gan nodi'r sgiliau gwyrdd y bydd eu hangen ar eich gweithlu i lwyddo a sut y gellir cyflawni'r rhain.
Bydd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a'r Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn agor y digwyddiad ar y cyd ag Emma Thomas, Rheolwr Adnoddau Dynol, ABER Instruments a Chadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
Hwylusydd y digwyddiad fydd Alun Jones, cyn-Brif Weithredwr Menter a Busnes sy’n gweithio gyda Busnesau Bach a Chanolig drwy Gymru ac yn eu cynghori. Fel cyfarwyddwr gweithredol cwmni cenedlaethol am dros 20 mlynedd', mae gan Alun ystod helaeth o sgiliau datblygu pobl a chwmnïau gan gynnwys arwain a rheoli, hyfforddi, a mentora.
Bydd cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn cael ei lansio yn ystod y digwyddiad gyda neges wedi'i recordio ymlaen llaw gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi yng Nghymru.
Bydd siaradwyr gwadd o fusnesau sefydledig yng Nghanolbarth Cymru, stondinau gwybodaeth gan ddarparwyr hyfforddiant, a sefydliadau eraill sy'n canolbwyntio ar sgiliau ar gael i gynnig cyngor, i wrando ar anghenion y busnesau, a'r heriau sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd.
Bydd swyddogion Powys a Cheredigion wrth law i rannu'r cymorth a'r atebion sydd ar gael, er enghraifft tendro a chaffael
Trefn y Dydd
08:45 - 9:30 Cofrestru a lluniaeth ysgafn
09:30 - 09.40 Cyflwyniad i’r digwyddiad
09:40 - 10:00 Croeso gan y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd, Cyngor Sir Powys, Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Emma Thomas, Cadeirydd, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.
10:00 - 10:30 Cyflwyniad ar Sgiliau Gwyrdd a Sero Net
10:30 - 10:50 Egwyl
10:50 - 12:30 Trafodaeth Banel: Heriau a Chyfleoedd ar gyfer Busnesau heddiw
12:30 - 12:50 Lansio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
12:50 - 13:00 Cloi’r bore a rhannu manylion cyswllt
13:00 - 14:00 Cyfle i rwydweithio dros ginio. Darperir cinio.
14:00 Cloi’r digwyddiad.
Cyngor Sir Powys County Council

The county council is responsible for delivering a wide range of local services across Powys, like education, transport, planning, libraries and waste management.
Mae'r cyngor sir yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau lleol ar draws Powys, fel addysg, trafnidiaeth, cynllunio, llyfrgelloedd a rheoli gwastraff.