157 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Darlleniadau gan feirdd a thrafodaeth yn archwilio’r syniad o ‘famiaith’ ac ‘iaith frodorol’ yng nghwmni Menna Elfyn, Ifor ap Glyn, Siân Northey, Grug Muse, Ned Thomas, Elin Haf Gruffydd Jones ac eraill.

Trefnir y digwyddiad gan Wales PEN Cymru, PEN Rhyngwladol, Cyfnewidfa Lên Cymru, Mercator, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.


Cyfnewidfa Lên Cymru

logo

Cyffordd gyfieithu yw Cyfnewidfa Lên Cymru sy'n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor.

Asiantaeth fechan ydym sy'n ffenest rhwng Cymru a'r byd: yn hwyluso gwerthu hawliau cyfieithu, yn gweinyddu grantiau cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr, yn weithdy sy'n tynnu ynghyd awduron a chyfieithwyr, yn llyfrgell o gyfieithiadau, ac yn guradur digwyddiadau llenyddol rhyngwladol.

Mae cyfieithu llenyddol yn chwarae rhan hanfodol mewn ecoleg bregus. Mae parch at bobl a'u cyd-destun yn y byd yn hanfodol wrth gyfnewid diwylliant. Rydym yn ymdrechu i deithio mewn modd ymwybodol, gan holi'n gyson pam a sut.

 

//

 

Wales Literature Exchange is the translation junction connecting writers, translators and publishers in Wales and abroad.

Wales Literature Exchange is committed to literary translation as a necessary element in a delicate ecology. Respect for human relations and their context in the world are vital to international exchange, and so we travel consciously, always asking why and how.

The Exchange is small, but many things: an agency facilitating the sale of translation rights, a translation grant fund for publishers, a workshop bringing together writers and translators, a library of translations, and a curator of translation events. In essence, we are a window between Wales and the world.

[email protected]