1 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.

Tecwyn Ifan, photo by Rhys Llwyd

Gig gydag un o gewri ein cenedl - Tecwyn Ifan!

Drysau'n agor am 20.00

Lle? Lle Arall, llawr gwaelod Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon

Dyddiad? Nos Wener 24 Chwefror 2023

 

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, ac mae'r digwyddiad yn debygol o werthu allan - rhowch wybod os na fyddwch yn gallu mynychu, fel bo modd i ni gynnig eich tocyn i rywun arall. Diolch yn fawr iawn.


Llety Arall

Llety Arall

 

 

Menter Gymunedol ydy Llety Arall, sydd wedi'i leoli mewn hen warws ar Stryd y Plas, Caernarfon. 

Mae Lle Arall yn ofod cymunedol a chymdeithasol ar lawr gwaelod yr adeilad, ac wedi sefydlu ei hun fel canolbwynt i ddigwyddiadau diwylliannol a mwy yn nhref Caernarfon. Mae'n ystafell aml-bwrpas sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd, gweithgareddau, hyfforddiant neu unrhyw fath o ddigwyddiad. Mae cyfleusterau digidol ar gael yn Lle Arall i’ch galluogi i gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau hybrid, h.y. digwyddiad wyneb i wyneb gyda'r opsiwn i eraill ymuno yn rhithiol. Mae posib archebu am fore, pnawn, gyda’r nos, neu am y diwrnod cyfan. Mae offer digidol ar gael, ac mae modd llogi cegin hefyd am bris ychwanegol.

[email protected]


Lleoliad y digwyddiad