50 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer y rhai sydd wedi eu lleoli yng Ngholegau’r:

Celfyddydau a’r Dyniaethau
Gwyddoniaeth (Biowyddorau, Cemeg, Daearyddiaeth a Ffiseg YN UNIG)
Gwyddoniaeth Ddynol ac Iechyd
Meddygaeth
Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton

Mae yna ddigwyddiad ar wahân i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y cwrs Meddygaeth Mynediad i Raddedigion ac felly ni fydd cynrychiolaeth o’r cwrs hwn yn y Diwrnod Agored Ôl-raddedig. Ewch i’n tudalen we Meddygaeth Mynediad i Raddedigion am ragor o wybodaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs ôl-radd a gynigir gan un o’r colegau neu ysgolion canlynol, cofrestrwch ar gyfer y Diwrnod Agored i Raddedigion: Campws y Bae ar ddydd Mercher 14 Tachwedd:

Coleg Gwyddoniaeth​ (Cyfrifiadureg a Mathemateg YN UNIG)
Y Coleg Peirianneg
Yr Ysgol Reolaeth
Yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff 

Mae angen i bawb sy’n dod i un o Ddiwrnodau Agored Prifysgol Abertawe, ac sy’n ystyried astudiaethau ôl-raddedig, lenwi ffurflen gofrestru ar wahân. Nid oes angen i ffrindiau a pherthnasau sy’n dod gyda chi gofrestru.

Os oes gennych unrhyw ymholiad cysylltwch â’r Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr Ôl-raddedig drwy e-bostio sro@abertawe.ac.uk

 


Prifysgol Abertawe

Swansea University logo

Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol sydd wedi'i harwain gan ymchwil ac mae wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod, ac yn cynnig y cydbwysedd cywir rhwng ymchwil ac addysgu rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd rhagorol.

c.j.stewart@abertawe.ac.uk