Diogelwch Seiber Gogledd Cymru – gwarchod eich busnes, gwarchod eich dyfodol
Dydd Mercher, 14 Mehefin, 2023 | 09:00 - 16:00
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Wrecsam
Tocynnau

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am lywodraethu plismona yng Ngogledd Cymru. Mae ar y Comisiynydd gyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau heddlu effeithiol ac effeithlon sy'n dangos gwerth am arian ac, yn bwysicaf oll, yn lleihau trosedd.
The North Wales Police and Crime Commissioner is the local governing body for policing in North Wales. The Commissioner has an overarching duty to secure an efficient and effective police force, which demonstrates value for money and, above all, cuts crime.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn cynnal y digwyddiad cyntaf o'i fath yn rhad ac am ddim i berchnogion busnesau yng Ngogledd Cymru er mwyn cynnig arweiniad ar sut i gadw busnesau'n ddiogel rhag troseddau seiber.
Mae diogelwch seiber yn bryder cynyddol i fusnesau ac yn bwnc brawychus i lawer. Bydd Diogelwch Seiber Gogledd Cymru yn dod a lleisiau a sefydliadau allweddol at ei gilydd er mwyn trafod camau syml y gall pob busnes ei gymryd er mwyn gwarchod eu hunain ar-lein. Hoffem i chi ymuno a ni ar y diwrnod.
Bydd y digwyddiad drwy'r dydd rhad ac am ddim yma yn digwydd ar 14eg o Fehefin ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o siaradwyr a sefydliadau gan gynnwys:
- Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
- Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – Sefydliad Llywodraeth y DU sy'n rhoi cyngor a chymorth i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat ar sut i osgoi bygythiadau diogelwch ar-lein.
- Tîm Cadernid Seiber Llywodraeth Cymru
- Tîm Seiber Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd Orllewin.
- Tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru.
- Cyber Wales
- Y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru
- Police Cyber Alarm
- Get Safe Online
Ynghyd â’r prif siaradwyr, bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arddangosfa a gweithdai rhyngweithiol yn ystod y prynhawn er mwyn galluogi cynrychiolwyr gadw eu busnes yn ddiogel rhag troseddau seiber.
Pryd: 14 Mehefin 2023 cyrraedd 9:00 dechrau 9:30-16:00
Lle: Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Cost: Am ddim (ceir cinio hefyd)
Cynulleidfa: Perchnogion busnes bach a chanolig ledled Gogledd Cymru
Dalier sylw: Gan fod y digwyddiad yn debygol o fod yn boblogaidd, gofynnwn i ddim mwy na 2 docyn gael eu harchebu ar gyfer bob busnes. Gofynnwn hefyd i wahoddedigion beidio anfon y gwahoddiad ymlaen at gydweithwyr.
Office of the Police and Crime Commissioner for North Wales