23 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Mae Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi (GRRaIN) Phrifysgol Aberystwyth yn cyflwyno digwyddiad ar-lein:

Ymarfer creadigol a busnesau creadigol – cyfleoedd a heriau o weithio yng Nghymru Wledig

 

7pm - 8.30pm

Nos Fercher, 26 Ionawr 2022

⁠Ar-lein: Zoom

 

Siaradwyr:

Anouska Brown, Cyd-berchennog Penrhiw Pottery

Jill Piercy, Curadur ac Awdur Llawrydd

Richard Steele, Ysgrifennwr Copi a Golygydd Llawrydd

Cadeirydd: Yr Athro Matthew Jarvis, Cymrawd Cyfnewid Creadigol, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Aberystwyth

 

Ymunwch â ni mewn gweminar a anelir at unigolion creadigol a busnesau sy’n ymwneud â’r celfyddydau yng nghefn gwlad Cymru. Bydd y digwyddiad yn rhoi sylw i gyfleoedd a heriau allweddol i'r diwydiant creadigol sy’n ymwneud â gweithio mewn ardaloedd gwledig y tu hwnt i’r dinasoedd a’r trefi mawrion. Byddwn yn ystyried: materion ynglŷn â datblygu mentrau creadigol yng nghyd-destun sylfaen economaidd gymharol fach; cyfleoedd a heriau rhwydweithio mewn cymunedau bach; y posibiliadau i fodelau busnes sy’n arbennig o addas i gymunedau bach; a’r cyfleoedd creadigol sy’n deillio o amrywiaeth ieithyddol Cymru ar gyfer unigolion a busnesau.

Bydd y digwyddiad yn dechrau â chyflwyniad byr gan bob siaradwr, a fydd yn rhoi braslun o’u gwaith yn y gymuned gelfyddydol a'u cysylltiadau â chefn gwlad Cymru. Dan gadeiryddiaeth yr Athro Matthew Jarvis, bydd aelodau'r panel yn trafod materion allweddol, gan rannu eu profiad helaeth fel curaduron, artistiaid a golygyddion. Dilynir hyn gan sesiwn holi ac ateb a chyfle i rwydweithio ag unigolion a busnesau creadigol eraill.

Os ydych yn artist, myfyriwr, cerddor, actor, perchennog busnes creadigol, yn gweithio yn y diwydiant celfyddydau, neu'n awyddus i gael gwybod mwy am y diwydiannau creadigol yng nghefn gwlad Cymru, ymunwch â ni yn y weminar hon sy’n rhad ac am ddim. 

 

Digwyddiad Saesneg fydd hwn. Cofiwch y bydd y ddolen Zoom wedi’i chynnwys yn yr e-bost cadarnhau ac y bydd dolen arall yn cael ei hanfon atoch 24 awr cyn y digwyddiad.  

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno! 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar-lein hwn, cysylltwch â [email protected].

Trefnir y digwyddiad hwn gan y Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Trydar: @GRRaIN_


GRRaIN

The Growth, Rural Resilience and Innovation Network logo

Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo mewn cael ei hystyried yn sefydliad entrepreneuraidd, ymchwil ac addysgu. Mae strwythur sefydliadol y Brifysgol yn arwain at waith rhagorol mewn perthynas ag ymgysylltu â busnesau, entrepreneuriaeth a sgiliau.

Mae GRRaIN yn rhoi llwyfan i weithgareddau menter arddangos yr hyn sydd gan Aberystwyth i’w gynnig. Yn wahanol i ganolfannau entrepreneuriaeth generig, mae gan GRRaIN y gwahaniaeth o ran arlwyo ar gyfer mentrau gwledig neu fentrau sy’n canolbwyntio ar ardaloedd gwledig. Bydd GRRaIN yn trosglwyddo gwybodaeth ac arfer gorau i’r busnesau gwledig hyn ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant.

--------------------

Growth, Rural Resilience and Innovation Network

Aberystwyth University prides itself on being regarded as an entrepreneurial, research and teaching institution. The organisational structure of the University results in some excellent work in relation to business engagement, entrepreneurship and skills.  

GRRaIN provides enterprise activities with a platform to showcase what Aberystwyth has to offer. Unlike generic entrepreneurship hubs, Aberystwyth’s GRRaIN has the distinction of catering for rural based or rural focussed enterprises. GRRaIN will transfer knowledge and best practice to these rural businesses and provide opportunities for training. 

[email protected]