7 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.

Data Cymru

Yn aml defnyddir grwpiau ffocws i ymgysylltu â grŵp bach o ddinasyddion i ddeall sut maen nhw'n teimlo am fater, polisi, cynnyrch, neu berson. Fel arfer maen nhw'n cynnwys chwech i wyth o gyfranogwyr yn cael eu harwain drwy drafodaeth gan un neu ddau o hwyluswyr. 

Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i ddeall pam, sut a phryd byddech chi’n trefnu ac yn cynnal grŵp ffocws i gefnogi’ch gwaith chi.

Yn y cwrs hwn byddwn yn trafod:

  • beth yw grwpiau ffocws, eu pwrpas, a phryd i’w defnyddio
  • yr elfennau allweddol mae eu hangen i ddylunio grwpiau ffocws
  • sut i ddewis cyfranogwyr a sicrhau cyfranogiad, gan gynnwys dulliau i ennyn diddordeb - cyfranogwyr anodd-eu-cyrraedd
  • sut i redeg grŵp ffocws.

I bwy mae’r cwrs

Mae’r cwrs hyfforddiant hwn wedi’i anelu at gydweithwyr llywodraeth leol. Sylwch fod uchafswm o ddau gynrychiolydd y cyngor.

Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac wedi’i anelu at ddechreuwyr. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddylunio a rhedeg grŵp ffocws.

Sylwch, bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig. Bydd yr holl ddeunyddiau ar gael yn Gymraeg. Bydd y cwrs yn para tua 2.5 awr.

Archebu lle yn cau ar 6 Mehefin 2023.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 029 2090 9500.

Byddwn ni (Data Cymru) yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddir i gydgysylltu â chi ynghylch â'r cwrs hwn a byddwn yn storio’r wybodaeth hon nes bod y cwrs drosodd. Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â chydweithwyr perthnasol Data Cymru a hwyluswyr allanol eraill, yn ôl yr angen. Rydym yn prosesu data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Mae ein hysbysiad preifatrwydd ni ar gael ar ein gwefan (https://www.data.cymru/cym/privacy-policy). 


Data Cymru

Data Cymru

Rydym yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol, gan gynnwys:

  • Cymorth i gyrchu, casglu neu goladu data
  • Dadansoddi data
  • Cyflwyno data’n effeithiol
  • Cyngor ar sut orau i ymgymryd ag ymchwil
  • Cymorth i ddarganfod beth mae dinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth/ cwsmeriaid yn meddwl
  • Hyfforddi’ch staff mewn pynciau perthnasol fel Ystadegau Sylfaenol, Cyflwyno Data, Dylunio a Dadansoddi Arolygon, Dylunio Holiaduron ac ati
  • Darparu mynediad cost-effeithiol i amrediad o setiau data masnachol.

We offer a range of specialist support designed to help you find and use data effectively, including:

  • Help to source, collect, or collate data
  • Data analysis
  • Effective data presentation
  • Advice on the best ways to undertake research
  • Help to find out what citizens, service users/customers think
  • Training your staff in relevant topics such as Basic Statistics, Presenting Data, Managing Performance, Survey Design & Analysis, Questionnaire Design etc.
  • Providing cost-effective access to a range of commercial data sets.

[email protected]