Cryfach gyda’n gilydd: Rhannu adnoddau cyfieithu yng Nghymru
Dydd Gwener, 16 Gorffenaf, 2021 | 09:00 - 12:00
Ar lein ar Teams, Bangor
Tocynnau

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau ac offer iaith cyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog.
Mae’r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o offer gwirio iaith eraill.
Mae’n gwneud gwaith safoni termau, ac yn datblygu geiriaduron electronig ar sawl platfform gwahanol gan gynnwys ar ffurf gwefannau ac apiau.
Mae’n datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we.
Mae’r Uned hefyd yn datblygu deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith.
Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â nifer o adrannau academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Cymraeg, Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cymdeithaseg a Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn 2016 bu’r Uned yn un o sefydlwyr Rhwydwaith Ymchwil Technoleg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, sy’n dod ag ymchwilwyr yn y maes hwn at ei gilydd o fewn y brifysgol.
Mae ganddi hefyd gysylltiad agos â byd busnes a diwydiant, ac mae’n ymgymryd â chynlluniau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
Gweithdy “Cryfach gyda’n gilydd:
Rhannu adnoddau cyfieithu yng Nghymru”
Pryd: 16 Gorffennaf 2021 9am - 12pm
Ble: Cynhelir y gweithdy dros Teams gan Brifysgol Bangor
Yn ei strategaeth ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r angen am “broffesiwn cyfieithu fodern sy’n manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ac adnoddau ieithyddol”. Mae’r dechnoleg yma yn cynnwys yn bennaf cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, sydd â’r potensial o arbed arian a chodi cynhyrchedd cyfieithwyr dynol yn sylweddol.
Eisoes bu tipyn o drafod ac arbrofi i rannu adnoddau cyfieithu er mwyn hybu technoleg cyfieithu yng Nghymru, ac eleni mae project ym Mhrifysgol Bangor yn mynd gam ymhellach. Gyda nawdd Llywodraeth Cymru, y bwriad yw sefydlu trefn hir dymor i gasglu data gan asiantaethau cyhoeddus yng Nghymru, ar ffurf cofion cyfieithu cyfochrog a thestunau perthnasol eraill, er mwyn ei ailddosbarthu a’i rannu gydag chyfieithwyr ac asiantaethau perthnasol eraill. Bydd y data a gesglir hefyd yn cael ei ddefnyddio i greu systemau cyfieithu peirianyddol pur, a modelau iaith ar gyfer datblygu technolegau eraill megis trawsgrifio o’r llafar i’r ysgrifenedig. Erbyn Mawrth 2022 gobeithiwn gyhoeddi’r system cyfieithu peirianyddol gyntaf ar gyfer maes penodol iechyd yng Nghymru.
Bwriad y gweithdy cyntaf yw rhannu gwybodaeth am y project, a gwahodd cyrff ac asiantaethau cyhoeddus i gydweithio gyda ni drwy rannu eu cofion cyfieithu a data perthnasol arall, derbyn cofion cyrff eraill yn gyfnewid, a chyfrannu at ddatblygu cyfieithu peirianyddol parth-benodol. Bydd cyfle yn ystod y gweithdy i drafod materion fel cyfrinachedd data, materion hawlfraint a thrwyddedu, a dysgu rhagor am y dechnoleg. Bydd cyfle hefyd i drafod syniadau ac i holi cwestiynau ar y dechnoleg a’r project.
Cyflwynir y gweithdy trwy'r cyfrwng Cymraeg.
Agenda
09.00 - 09.15 Croeso a chefndir: map ffordd
09.15 - 09.30 Demo o adnoddau cyfredol
09.30 - 09.45 Gareth Morlais: Persbectif Llywodraeth Cymru
09.45 - 10.15 Teressa Lynn: Cyd-destun Ewropeaidd
10.15 - 10.30 Toriad
10.30 - 10.45 Beth ydyn ni’n chwilio amdano ar hyn o bryd
10.45 - 11.00 Ffocws ar y byd iechyd
11.00 - 11.15 Trwyddedau ac IP
11.15 - 11.30 Anonomeiddio, Preifatrwydd a Sensitifrwydd Data
11.30 - 12.00 Sesiwn holi ac ateb
12.00 Cau
Uned Technolegau Iaith