Diwygio AGA yng Nghymru: Aros ar Drac
Dydd Mercher, 24 Mawrth, 2021 | 09:30 - 15:00
Gweminar Zoom,
Tocynnau

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn rheoleiddio ymarferwyr addysg yng Nghymru / The Education Workforce Council regulates education practitioners in Wales
Mae’n bleser gan CGA wahodd partneriaethau AGA a phartïon eraill â diddordeb i weithdy rhyngweithiol ar-lein sy'n canolbwyntio ar y thema 'Aros ar Drac'.
Bydd y digwyddiad hwn, sy’n cael ei gyflwyno gan yr Athro John Furlong a Dr Hazel Hagger, yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddechrau paratoi at 2021/22. Byddant hefyd yn rhannu eu profiadau o’r broses diwygio hyd yma, gan ddathlu cyflawiadau, ystyried heriau a dysgu ar y cyd.
Bydd y diwrnod yn cwmpasu tair thema sy’n mynd i wraidd y diwygiadau. Mae’r tair thema fel a ganlyn:
- Cydadeiladu a llywodraethu – Byw’r bartneriaeth
- Mentora
- Integreiddio gwybodaeth rhwng prifysgolion ac ysgolion
Ymunwch â ni wrth rannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu, a dathlu’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yng Nghymru hyd yma.
Cyngor y Gweithlu Addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn rheoleiddio ymarferwyr addysg yng Nghymru / The Education Workforce Council regulates education practitioners in Wales