85 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Ymchwil sy’n dod I’r Amlwg ar y Gymru Gyfoes

 

Siaradwyr:

Megan Farr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Paul Jones, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 

Dydd Gwener, 18 Mawrth 2022

13:00-14:00

 

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’r digwyddiad hwn wedi’i drefnu gan Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS-WISERD)

Bydd y seminar yn cynnwys dau bapur gan ymchwilwyr sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, y ddau yn edrych ar wahanol agweddau ar ddiwylliant cyfoes Cymru. Bydd Megan Farr yn ystyried materion yn gysylltiedig â chyhoeddi llenyddiaeth plant yng Nghymru heddiw, a bydd Paul Jones yn ystyried y moesoldeb a’r tybiaethau diwylliannol sy’n gysylltiedig â chyhwfan baneri cenedlaethol yn ystod Covid-19.

Mae Megan Farr yn Ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Cymry y Drindod Dewi Sant lle mae hi’n astudio ‘Strategic Action for Internationalisation of the Children's Publishing Sector in Wales’, a gyllidir gan KESS2 a’i noddi gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae maes ei hymchwil yn cwmpasu llenyddiaeth Gymraeg i blant, llenyddiaeth gymharol i blant, astudiaethau cyfieithu ac astudiaethau cyhoeddi. Mae hefyd yn Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus i Wasg Firefly.

Uwch Ddarlithydd ym maes Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yw Paul Jones. Ynghyd ag arddangos, ysgrifennu a chyflwyno mewn cynadleddau, a chynnal gweithdai yn Athens, Gwlad Groeg a Riga, Latfia, mae Paul yn arwain gwaith curadu orielau gwaith ymchwil ar gampws Stryd Regent. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng hunaniaeth a thiriogaeth, hiwmor a chelf, arferion celf ôl-gysyniadol, ac episteme ymchwil artistig.

 

Digwyddiad Saesneg fydd hwn. Bydd cyfle am sesiwn cwestiwn ac ateb.

Bydd y ddolen Zoom i ymuno â’r digwyddiad wedi’i chynnwys yn yr e-bost cadarnhau ac yn cael ei hanfon atoch 24 awr cyn y digwyddiad.  

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!

 

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â [email protected]

Trefnir y digwyddiad gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas CymruPrifysgol Aberystwyth.

Trydar: @CWPSAber

Cewch wybod am ddigwyddiadau eraill yma.

Ymunwch â’n rhestr bostio i gael gohebiaeth reolaidd gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, gan gynnwys ein e-newyddlen sy’n cynnwys ein newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau, cofrestrwch yma

 


Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / Centre for Welsh Politics and Society

CWPS

Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, gyda’r nod o ddatblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru yng nghyd-destun byd cydgysylltiedig, gan gefnogi a chyflawni gwaith ymchwil o safon fyd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus a dadleuon a datblygiad polisi yng Nghymru.

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru hefyd yn gweithredu fel cangen Aberystwyth o WISERD, gan ddarparu cysylltiadau â gwyddonwyr cymdeithasol ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe.

 

The Centre for Welsh Politics and Society is an interdisciplinary research centre at Aberystwyth University aimed at developing our understanding of contemporary politics and society in Wales in the context of an inter-connected world, supporting and delivering world-class research in the social sciences, and contributing to public knowledge and debates and policy development in Wales.

The Centre for Welsh Politics and Society also functions as the Aberystwyth arm of WISERD, providing links with social scientists at Bangor, Cardiff, South Wales and Swansea universities.

[email protected]