4 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Ymunwch â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn i edrych ar y ffyrdd y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i ddatblygu’r camau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar - sef ‘Gadael neb ar ôl’ - a sicrhau adferiad o blaid pobl hŷn yn dilyn Covid-19.

Bydd pobl hŷn yn ymuno â’r Comisiynydd i rannu eu profiadau o’r cyfyngiadau symud ynghyd â’u syniadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Hefyd, bydd panel o arbenigwyr yn edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau newid a gwneud yn siŵr nad yw pobl hŷn yn cael eu heithrio wrth i ni symud ymlaen.

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad a heb gael e-bost sy’n cynnwys y cyfarwyddiadau ymuno, cliciwch yma i ddechrau’r weminar.


Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru \\ Older People's Commissioner for Wales

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru \ Older People's Commissioner for Wales

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n gwarchod ac yn hybu hawliau pobl hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau. Mae’n darparu help a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn drwy ei thîm gwaith achosion ac mae’n gweithio i rymuso pobl hŷn i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac y gweithredir yn ei gylch. Mae rôl y Comisiynydd yn seiliedig ar gyfres o bwerau cyfreithiol unigryw i’w chefnogi gydag adolygu gwaith cyrff cyhoeddus a’u dal yn atebol pan fo angen.

Mae’r Comisiynydd yn gweithredu i roi terfyn ar wahaniaethu a rhagfarn ar sail oedran, i atal cam-drin pobl hŷn ac i alluogi i bawb heneiddio’n dda

 

The Older People’s Commissioner for Wales protects and promotes the rights of older people throughout Wales, scrutinising and influencing a wide range of policy and practice to improve their lives. She provides help and support directly to older people through her casework team and works to empower older people and ensure that their voices are heard and acted upon. The Commissioner’s role is underpinned by a set of unique legal powers to support her in reviewing the work of public bodies and holding them to account when necessary.

The Commissioner is taking action to end ageism and age discrimination, stop the abuse of older people and enable everyone to age well.

[email protected]