34 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Trosolwg:

Mae YCC ac ECCO yn gyffrous i gyhoeddi diwrnod amlddisgyblaethol o atebion wedi'u treialu a'u profi mewn ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd. Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar dri phwnc; Trafnidiaeth, Effeithlonrwydd Ynni ac Ynni, gyda siaradwyr o bob cwr o Gymru ac Ewrop.

Y llynedd, nododd adroddiad IPCC yn glir bod gennym lai na 12 mlynedd i weithredu gyda'n gilydd er mwyn osgoi'r effeithiau gwaethaf o newid yn yr hinsawdd. Mewn ymateb, mae cannoedd o gynghorau tref a chymuned, awdurdodau lleol a llywodraethau wedi cymryd y cam digynsail o ddatgan argyfwng hinsawdd. (https://climateemergency.uk/) Erbyn hyn mae'n bryd gweithredu a chymryd y camau angenrheidiol i ddilyn y datganiadau hyn gyda chamau gweithredol. Bydd y digwyddiad hwn yn gwahodd siaradwyr o'r sector cyhoeddus, preifat a chymunedol i ddangos rhai o'r atebion ymarferol posibl y gallwn eu defnyddio a dod ynghyd i archwilio cyfleoedd i gydweithio.

Mae'r diwrnod hwn wedi'i fwriadu ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat yng Nghymru sy'n ceisio dod o hud i atebion cynaliadwy i'r tri phwnc y sonnir amdanynt uchod, a bydd yn gyfle gwych i randdeiliaid o wahanol sectorau ddod ynghyd, rhannu syniadau a chydweithio.

 

Siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau hyd yn hyn:


Tonnie Tekelenburg - Locheme Energie: Trafod eu clwb rhannu ceir arloesol a'u App.
Meleri Davies - Ynni Ogwen: HUBs Effeithlonrwydd Ynni yng Nghymru
Jeremy Thorpe - Open Newtown: Cydweithfeydd Tai
Gareth Harrison - Cyd Ynni: Cydweithio i rannu adnoddau

Stondinau masnach:


Bydd ugain o stondinau masnach ar gael ar y diwrnod, gyda digon o amser i archwilio a sgwrsio yn ystod yr egwyliau amrywiol trwy gydol y dydd. Mae aelodau CEW yn agored i ostyngiad mewn costau stondinau masnach.


Ynni Cymunedol Cymru / Community Energy Wales

logo

Community Energy Wales is a not for profit membership organisation that has been set up to provide assistance and a voice to community groups working on energy projects in Wales. We want to help create the conditions in Wales that allow community energy projects to flourish, and communities to prosper.

[email protected]


Lleoliad y digwyddiad