Gwobrau Gwerin Cymru
Dydd Iau, 20 Ebrill, 2023 | 19:00 - 23:00
Neuadd Hoddinott y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Tocynnau
Mae Trac Cymru yn elusen gofrestredig ac mae Gwobrau Gwerin Cymru 2023 yn cael eu hariannu gan werthiant tocynnau yn unig. Rydym yn eich annog i brynu'r tocyn 'Supporting Ticket' os gallwch, i gefnogi'r digwyddiad gwych hwn.
*********************
Mae Gwobrau Gwerin Cymru yn dathlu a hyrwyddo cerddoriaeth Cymru ar ei lefel uchaf.
Bydd y Noson Wobrwyo yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar y 20fed Ebrill. Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau byw gan rai o’r enillwyr, gyda BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn darlledu rhaglenni wedi’u recordio ar y noson.
Mae Gwobrau Gwerin Cymru yn bartneriaeth rhwng Trac Cymru (elusen datblygu gwerin Cymru), BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac unigolion arwyddocaol o fyd cerddoriaeth werin Gymreig.