19 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg

Dydd Gwener, 24 Chwefror, 2023, yn Adeilad Reichel, Prifysgol Bangor  9.30 y bore i 4 y prynhawn

Agorir y gynhadledd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, gyda gair o groeso gan Yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor

Cadeirydd y Gynhadledd: Yr Athro Delyth Prys

Trefnydd y Gynhadledd: Stefano Ghazzali

Y bumed yn ein cyfres ar gyfer pawb sydd â diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol, ac yn arbennig, y Gymraeg.

Mae’n bleser gennym fedru gwahodd pawb i gwrdd unwaith eto ym Mhrifysgol Bangor ar ôl dyddiau tywyll Covid-19.  Croeso cynnes i chi i gyd.

 

Rhaglen y Gynhadledd

Darperir cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg yn ystod y gynhadledd

Dydd Gwener, 24 Chwefror, 2023, yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor

9.00 Cofrestru

9.30 Agor y Gynhadledd

Gair o groeso gan yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor i Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i agor y gynhadledd

Anerchiad gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

10.00 Yr Athro Delyth Prys, Prifysgol Bangor – Ugain Mlynedd o Dechnolegau Iaith yng Nghymru

10.30 Yr Athro William Lamb, Prifysgol Caeredin -Technolegau Iaith Gaeleg yr Alban a’r Bartneriaeth gyda Phrifysgol Bangor

11.00 Paned

11.30 Shân Pritchard a Stephen Russell, Prifysgol Bangor – Macsen a’r ddarpariaeth Gymraeg ddiweddaraf

12.00 Dewi Bryn Jones, Prifysgol Bangor – Y Daith hyd at y Trawsgrifiwr: Adnabod Lleferydd Cymraeg Cyffredinol

12.30 Cinio a Chyfle i weld Stondinau’r Cwmnïau Meddalwedd

13.30 Einion Gruffydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Project Torfoli i Drawsgrifio Archif Ffilm a Theledu Cymru

14.30 Dr Rodolfo Piskorski, Prifysgol De Cymru a Fernando Pabst Silva, Prifysgol Metropolitan Caerdydd -Gairglo, y Wordle Cymraeg, ac adnoddau eraill o wefan Hir-iaith

15.00 Arddangosiad Cwmnïau Masnachol a Gofod Profi Meddalwedd Cymraeg

16.00 Cau’r Gynhadledd

 


Uned Technolegau Iaith

Techiaith Logo

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau ac offer iaith cyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog.

Mae’r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o offer gwirio iaith eraill.

Mae’n gwneud gwaith safoni termau, ac yn datblygu geiriaduron electronig ar sawl platfform gwahanol gan gynnwys ar ffurf gwefannau ac apiau.

Mae’n datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we.

Mae’r Uned hefyd yn datblygu deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith.

Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â nifer o adrannau academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Cymraeg, Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cymdeithaseg a Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn 2016 bu’r Uned yn un o sefydlwyr Rhwydwaith Ymchwil Technoleg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, sy’n dod ag ymchwilwyr yn y maes hwn at ei gilydd o fewn y brifysgol.

Mae ganddi hefyd gysylltiad agos â byd busnes a diwydiant, ac mae’n ymgymryd â chynlluniau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).

[email protected]


Lleoliad y digwyddiad