8 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i'r digwyddiad olaf ar gyfer Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae croeso mawr i sefydliadau ac unigolion sydd wedi gweithio ar brosiectau mawr neu fach i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Dyma nod y diwrnod:

·         Trafod y coffáu yng Nghymru a rhannu'r Gwersi a Ddysgwyd

·         Rhoi sylw i waddol y rhaglen goffáu a'r hyn y mae'r coffáu yn ei olygu ar gyfer y dyfodol

·         Rhoi cyfle i glywed am amrywiaeth o raglenni / weithgareddau coffáu a fydd yn parhau yn y dyfodol

·         Galluogi'r rheini a fydd yn bresennol i ddysgu mwy am y trefniadau, yr wybodaeth a'r adnoddau a fydd yn waddol Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 

·         Parhau i ysbrydoli pobl i weithio mewn partneriaeth ar ôl i'r rhaglen ddod i ben

Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, sy'n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru.

 

Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin, a bydd lle ar gyfer 4 cynrychiolydd ar ran pob sefydliad.

Amserlen:

13:00 - 14:00            Cyrraedd a chofrestru, a chinio ar gael

14:00 - 14:15            Croeso ac edrych yn ôl ar y coffáu − yr Athro Syr Deian Hopkin a Linda Tomos, Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru ar Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

14:15 – 15:15           ‘Beth ddigwyddodd yn ystod y coffáu a beth nesaf’. Siaradwyr i'w cadarnhau.

15:15 – 15:30           Te a choffi

15:30 – 16:00           Sesiwn microffon agored ar y Gwersi a Ddysgwyd (5 munud yr un) dan arweiniad yr Athro Syr Deian Hopkin a Linda Tomos

16:00 – 16:20           Y trefniadau ar gyfer gwaddol Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918

16:20 – 16:30           Sylwadau i gloi a diolchiadau

16:30                          Diwedd

 

Ar ôl y digwyddiad, bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd, i ddiolch i'r llu o unigolion a sefydliadau a fu'n rhan o'r coffáu. I gael rhagor o wybodaeth neu i neilltuo lle, cysylltwch â CabinetCommunica[email protected]. Bydd angen tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.

 

Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw’r rhaglen swyddogol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws Cymru a thu hwnt: www.cymruncofio.org

Sylwer y bydd ffotograffau'n cael eu tynnu yn y digwyddiad hyn. Wrth gofrestru i ddod i’r digwyddiad, bydd pawb yn cytuno y caiff Cymru'n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ddefnyddio’r ffotograffau hynny mewn deunyddiau cyfathrebu ac ar wefannau a sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.


Cymru'n Cofio Wales Remembers 1914 - 1918


Lleoliad y digwyddiad