Defnyddio ‘Theori Newid’ i Werthuso
Dydd Iau, 9 Mai, 2019 | 09:30 - 16:00
WCVA, Caerdydd
Tocynnau

Fel aelod bydd gennych fynediad at ystod eang o adnoddau a chymorth. Rydym hefyd yn hoff o gynnwys ein haelodau cyn i ni wneud penderfyniadau o bwys sy’n effeithio ar y trydydd sector.
WCVA is the national membership organisation for the third sector in Wales. Our vision is for the third sector and volunteering to thrive and improve well-being for all. We aim to achieve this by influencing, connecting and enabling.
Sut y gall datblygu theori newid gynorthwyo’ch mudiad i fesur a gwerthuso effaith.
Amcanion
Eich helpu i ddeall yn well sut y gellir defnyddio Theori Newid i werthuso a'ch helpu i ddefnyddio Theori Newid at eich dibenion eich hun.
Canlyniadau dysgu
Trwy gymryd rhan yn y cwrs byddwch yn:
- Ennill dealltwriaeth well o derminoleg allweddol a ddefnyddir wrth werthuso, ac o ddulliau gwerthuso pwysig a'r hyn yr ydych yn anelu at ei gyflawni.
- Deall nodweddion unigryw Theori Newid yn well, ei chryfderau allweddol, a sut y gellid ei defnyddio yn eich gwaith chi.
- Dysgu sgiliau ac yn teimlo'n hyderus i fynd ati i gynllunio a gweithredu Theori Newid yn eich gwaith chi.
- Dysgu am ffyrdd defnyddiol o gasglu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i gynhyrchu canfyddiadau cadarn mewn gwerthusiad sydd wedi'i seilio ar Theori Newid.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu theori newid yn eu mudiad, neu sydd am ddarganfod sut i wella arferion eu mudiad o ran effaith a gwerthuso yn fwy cyffredinol.
WCVA