9 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.

Data Cymru

Mae data yn sylfaenol i sut rydym ni’n gweithredu fel bodau dynol. Rydym ni’n defnyddio data bob dydd, llawer o weithiau y dydd, a hynny heb yn wybod i ni, yn fwy na thebyg. Data sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n mynd ymlaen a beth sydd angen ei wneud.

Mae’n bwysig, felly, bod gennym ni’r data cywir a’n bod yn gallu ei ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol.

Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu i feithrin sgiliau a hyder wrth ddeall a defnyddio data.

Yn ein cwrs byddwn yn siarad am y gwahanol fathau o ddata a sut mae dod o hyd iddo. Byddwn ni’n eich arwain trwy gyfres o gwestiynau sy’n bwriadu helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall y data rydych chi’n gweithio gydag ef. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan rai technegau i helpu i droi data yn wybodaeth.

I bwy mae’r cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at Gynghorwyr llywodraeth leol. Sylwch fod uchafswm o ddau gynrychiolydd y cyngor.

Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at gynulleidfa ddechreuwr. Ni thybir na bod unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau yn ofynnol.

Sylwch, bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig. Bydd y cwrs yn para tua 1.5 awr.

Archebu lle yn cau ar 20 Mawrth 2023.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 029 2090 9500.

Byddwn ni (Data Cymru) yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddir i gydgysylltu â chi ynghylch â'r cwrs hwn a byddwn yn storio’r wybodaeth hon nes bod y cwrs drosodd. Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â chydweithwyr perthnasol Data Cymru a hwyluswyr allanol eraill, yn ôl yr angen. Rydym yn prosesu data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Mae ein hysbysiad preifatrwydd ni ar gael ar ein gwefan (https://www.data.cymru/cym/privacy-policy). 


Data Cymru

Data Cymru

Rydym yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol, gan gynnwys:

  • Cymorth i gyrchu, casglu neu goladu data
  • Dadansoddi data
  • Cyflwyno data’n effeithiol
  • Cyngor ar sut orau i ymgymryd ag ymchwil
  • Cymorth i ddarganfod beth mae dinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth/ cwsmeriaid yn meddwl
  • Hyfforddi’ch staff mewn pynciau perthnasol fel Ystadegau Sylfaenol, Cyflwyno Data, Dylunio a Dadansoddi Arolygon, Dylunio Holiaduron ac ati
  • Darparu mynediad cost-effeithiol i amrediad o setiau data masnachol.

We offer a range of specialist support designed to help you find and use data effectively, including:

  • Help to source, collect, or collate data
  • Data analysis
  • Effective data presentation
  • Advice on the best ways to undertake research
  • Help to find out what citizens, service users/customers think
  • Training your staff in relevant topics such as Basic Statistics, Presenting Data, Managing Performance, Survey Design & Analysis, Questionnaire Design etc.
  • Providing cost-effective access to a range of commercial data sets.

[email protected]