Cymru Iachach - Trawsnewid Iechyd a Gofal yng Nghymru
Dydd Mawrth, 17 Rhagfyr, 2019 | 09:00 - 12:00
Y Ganolfan Rheolaeth, Bangor
Tocynnau
Mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ni all y system bresennol ddiwallu'r galw sydd arni bob dydd. Mae'n rhaid i ni sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
Cymru Iachach yw cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru i ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd. Er mwyn gwireddu hyn, rydym angen i bawb sy'n gweithio yn y maes iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector feddwl yn wahanol am y ffordd y maent yn gweithio.
Hoffai Llywodraeth Cymru a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd eich gwahodd i ddigwyddiad dwyieithog RHAD AC AM DDIM lle gallwch ddysgu mwy ynglŷn â beth y mae hyn yn ei olygu i chi a'r ffordd yr ydych chi'n gweithio. Byddwch hefyd yn clywed enghreifftiau o wahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau yr ydym eisoes yn eu gweld yn y Gogledd ac ar draws Cymru. Bydd galw mawr am docynnau ar gyfer y digwyddiad hwn, felly ewch ati i gadw eich lle heb oedi.
Rhowch wybod i ni sut yr hoffech gyfrannu i’r digwyddiad, yn Gymraeg neu yn Saesneg.