33 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Ymunwch â ni yn y gweithdy hwn gan Y Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru, sy’n ymdrin â sut i gael mynediad at yr adnoddau ar-lein am ddim ar OpenLearn.

Mae gwefan OpenLearn yn cynnwys dros 1000 o gyrsiau, erthyglau a fideos am ddim. 

Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio OpenLearn, a chofrestru ar gyfer cyrsiau byr sydd â sylw penodol ar bethau sydd o ddiddordeb i'r rheiny sy'n frwd dros gynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd.

Dysgwch sut i gael mynediad at ein cyfrifiannell er mwyn gweld beth yw eich ôl troed carbon personol chi.

Mae gan Y Brifysgol Agored iSpot Nature hefyd ar gyfer unigolion sy’n ymddiddori mewn planhigion, yn ogystal â phynciau'n ymwneud â bioamrywiaeth a byd natur, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu’r rhain gyda chi hefyd ar 18 Hydref.


The Open University in Wales | Y Brifysgol Agored yng Nghymru

The Open University in Wales logo / Logo'r Brifysgol Agored yng Nghymru

The Open University is the largest provider of part-time undergraduate higher education in Wales. It is a world leader in providing innovative and flexible distance learning opportunities at higher education level, including undergraduate, postgraduate and access courses.  

More than 15,500 students from virtually every community in Wales are currently studying with The Open University, and more than two thirds are in employment while they study. The OU works with businesses, charities and public bodies in Wales to help them develop their staff, and encourage more people into lifelong learning, regardless of their background.  

Y Brifysgol Agored yw'r darparwr addysg uwch rhan amser mwyaf yng Nghymru. Mae ar flaen y gad o ran darparu cyfleoedd dysgu o bell arloesol a hyblyg ar lefel addysg uwch gan gynnwys cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a mynediad.  

Mae dros 15,500 o fyfyrwyr o bron bob rhan o Gymru yn astudio â'r Brifysgol Agored ar hyn o bryd, ac mae mwy na dwy ran o dair ohonynt mewn cyflogaeth wrth iddynt astudio. Mae'r Brifysgol Agored yn gweithio gyda busnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i'w helpu i ddatblygu eu staff, ac annog mwy o bobl i ddysgu gydol oes, ni waeth beth fo'u cefndir. 

[email protected]