I nodi cychwyn blwyddyn canmlwyddiant Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, gwahoddir chi'n gynnes iawn i ddarlith arbennig i’w thraddodi gan:

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC
Prif Weinidog Cymru

Towards a better Union: past, present and post-Brexit prospects for the United Kingdom

am 5.00y.h., nos Iau, 11 Hydref, 2018 yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth

Noder os gwelwch yn dda nad oes dim tocynnau ar ol ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth University

Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru The Times / The Sunday Times Good University Guide 2020. Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth yn 1872 ac mae’n brifysgol addysgu ac ymchwil flaenllaw. Dyfarnwyd iddi Aur yn y Fframwaith a Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) ym mis Mehefin 2018, a chafodd ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu yn The Times / Sunday Times Good University Guide 2019, y brifysgol gyntaf erioed i ennill y wobr hon am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2019, roedd Aberystwyth ar y brig yng Nghymru a Lloegr a’r ail orau o blith prifysgolion y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr. Dengys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf a gyhoeddwyd yn 2014 bod 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Aberystwyth o safon sydd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae’n gymuned o ddeutu 9,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff, â’r nod o ddarparu addysg ac ymchwil sydd yn ysbrydoli mewn awyrgylch gefnogol, greadigol ac eithriadol. Elusen gofrestredig rhif 1145141.

cyfathrebu@aber.ac.uk


Lleoliad y digwyddiad