Dyfodol ymchwil i addysg yng Nghymru
Dydd Mercher, 14 Tachwedd, 2018 | 09:00 - 17:00
Jurys Inn Cardiff, Caerdydd


[CY] Mae BERA yn gymdeithas aelodaeth ac yn gymdeithas ddysgedig sy’n ymrwymo i wella ansawdd gwaith ymchwil, cynyddu gallu ymchwil a meithrin ymgysylltiad ag ymchwil. Nod BERA yw llywio datblygiad polisi ac ymarfer trwy hyrwyddo tystiolaeth o’r ansawdd uchaf a gynhyrchwyd gan ymchwil i addysg.
[EN] BERA is a membership association and learned society committed to advancing research quality, building research capacity and fostering research engagement. BERA aims to inform the development of policy and practice by promoting the best quality evidence produced by educational research.
Diolch am ddangos diddordeb yn y digwyddiad hwn. Yn anffodus, mae’r cyfnod cofrestru wedi cau. Deallwn eich bod wedi bod yn edrych ymlaen at fynychu’r gynhadledd ac ymddiheurwn na allwn gynnig lle i fwy o fynychwyr. Fodd bynnag, byddwn yn cyhoeddi cynnwys y gynhadledd yn fuan ar ôl y gynhadledd.
***
Mae’r system addysg yng Nghymru ar daith ddiwygio uchelgeisiol ac arloesol ar hyn o bryd, ac mae ymchwil ac arferion wedi’u llywio gan dystiolaeth yn allweddol i’w llwyddiant. Bydd y gynhadledd gyffrous hon a gynhelir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain yn rhoi llwyfan i’r gymuned addysg yng Nghymru drafod a rhannu syniadau ynglŷn â’r cyfleoedd ar gyfer ymchwil ac arferion wedi’u llywio gan dystiolaeth yn y cyd-destun hwn sy’n esblygu.
Gwahoddir athrawon, ymchwilwyr a rhanddeiliaid addysg i gymryd rhan mewn arddangosfa ymchwil addysgol, cyfrannu at drafodaethau ynglŷn â sut gall tystiolaeth ffurfio ymarfer yn yr ystafell ddosbarth a datblygu partneriaethau.
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfraniadau gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ymchwilwyr blaenllaw a phenaethiaid sy’n arloesi o ran defnyddio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
Ni chodir tâl am fynychu.
Rhaglen
09:00 Cofrestru, lluniaeth ac arddangosfa
09:50 Croeso a chyflwyniadau
Yr Athro David James, Prifysgol Caerdydd
10.00 Trosi ymchwil yn ymarfer – yr hyn y mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu y bydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol yng Nghymru
Philippa Cordingley, Prif Weithredwr y Ganolfan ar gyfer Defnyddio Ymchwil a Thystiolaeth mewn Addysg
10.30 Trafodaeth banel
Eithne Hughes OBE, Ysgol Bryn Elian; Dr Kevin Smith, Prifysgol Caerdydd; Dr Rachel Bowen, ColegauCymru; Dr Kevin Palmer, Llywodraeth Cymru
11.20 Sylwadau gan y Cadeirydd
11.30 Anerchiad Ysgrifennydd y Cabinet
Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
12.00 Sesiwn boster
gan gynnwys rhwydweithio a chinio (a ddarperir)
13.30 Ymchwil Gysylltiedig ag Ymarfer: Beth ydyw, a sut gellir gwella ei hansawdd?
Yr Athro Dominic Wyse, Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain a Yr Athro Chris Brown, Prifysgol Portsmouth
14.00 Grwpiau trafod traws-sector cyfochrog
Hwyluswyr:
Yr Athro Gary Beauchamp, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Dr Andrew Davies, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Alma Harris, Prifysgol Abertawe
Yr Athro Emma Renold, Prifysgol Caerdydd
Lisa Taylor, Prifysgol De Cymru
Yr Athro Enlli Thomas, Prifysgol Bangor
Dr Jane Waters, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
15.00 Trafodaeth sesiwn lawn ar gyfeiriad strategol ymchwil addysgol yng Nghymru
Cadeirydd: Yr Athro Sally Power, WISERD &
Yr Athro John Gardner, Prifysgol Stirling
16.00 Derbyniad rhwydweithio
17.00 Diwedd y digwyddiad
Grwpiau trafod traws-sector cyfochrog
Yn y prynhawn, gwahoddir cynrychiolwyr y gynhadledd i gymryd rhan mewn gweithdai penodol ar gryfderau presennol, heriau, a dyfodol posibl ymchwil addysgol yng Nghymru. Bydd y grwpiau amrywiol hyn yn cynnwys unigolion o bob rhan o’r sector addysg, ac fe’u hwylusir gan gynrychiolwyr prifysgolion ledled Cymru a thu hwnt. Mae tri diben i’r trafodaethau hyn: 1) deall cyd-destun ymgysylltiadau presennol ag ymchwil addysgol, 2) rhannu safbwyntiau ynglŷn ag ymchwil addysgol a phrofiadau ohoni a all arwain at gydweithrediadau cynhyrchiol ar draws y sector addysg, a 3) datblygu gweledigaeth a strategaethau ar gyfer y capasiti uwch am ymchwil addysgol o ansawdd uchel yng Nghymru.
Galw am Gyflwyniadau
Mae Llywodraeth Cymru a BERA yn eich gwahodd i roi cyflwyniad poster ar gyfer y gynhadledd ‘Dyfodol ymchwil addysgol yng Nghymru’ a gynhelir yn Jury’s Inn yng Nghaerdydd ar 14 Tachwedd 2018. Bydd y posteri’n amlygu’r gwaith ymchwil a wneir mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru heddiw. Bydd y posteri’n cael eu harddangos mewn sesiwn arbennig yn y gynhadledd, a bydd cynrychiolwyr yn cael cyfle i weld y cyflwyniadau posteri, trafod y prosiectau gyda’r cyflwynwyr, ac i ddatblygu rhwydweithiau cadarn sy’n cynnwys unigolion sydd ynghlwm ag ymchwil addysg trwy gydol y sector addysg. Rydym yn eich croesawu i fanteisio ar y cyfle unigryw hwn i rannu eich angerdd am ymagweddau at addysg sydd wedi’u llywio gan ymchwil ac ymestyn y gallu ar gyfer gwaith ymchwil addysgol o ansawdd uchel yng Nghymru.
Gall y cyflwyniadau drafod unrhyw un o’r agweddau canlynol ar addysg yng Nghymru, ond ystyrir pynciau eraill hefyd:
- Cwricwlwm
- Addysgeg/Cyfarwyddyd
- Dysgu Proffesiynol
- Cymhwysedd Digidol
- Rhifedd/Llythrennedd
- Arweinyddiaeth a rheolaeth
- Safonau proffesiynol
- Addysg Gychwynnol i Athrawon
Meini Prawf Cyflwyno
Rhaid bodloni’r meini prawf canlynol i’ch poster gael ei ystyried:
1) Defnyddiwch y templed a ddarparwyd
2) Rhaid i’r holl flychau testun yn y templed gael eu llenwi â’r wybodaeth berthnasol
Mae arweiniad ar sut i lenwi’r poster yn gynwysedig gyda’r templed.
3) Testun y poster
a. Nifer geiriau: dim mwy na 1,000 gair (rydym yn argymell 800-1,000 gair)
b. Maint ffont a argymhellir: 30 (ac eithrio penawdau)
4) Graffeg y poster
a. Nid yw baneri na throedynnau’n angenrheidiol (nac yn cael eu hargymell)
b. Caniateir ffotograffau, graffiau a delweddau eraill, ond nid oes rhaid eu cynnwys
5) Codau QR
a. Bydd y posteri’n cynnwys cod QR gyda’u manylion cyswllt y gall y mynychwyr ei sganio a chadw’r manylion yn eu ffôn.
b. Mae’r cyfarwyddiadau ar gyfer creu a gosod y cod QR yn eich poster wedi’u cynnwys yn yr adran “comments” gyda thempled y poster.
6) Ar ôl cwblhau templedi’r posteri, anfonwch nhw drwy e-bost at yr Athro Gary Beauchamp ([email protected]) neu Dr Kevin Smith ([email protected]) gan nodi “Poster submission” fel y testun.
Dyddiad cau: Dydd Iau 25 Hydref 2018
BWRSARIAETHAU
Mae nifer gyfyngedig o fwrsariaethau o hyd at £250 ar gael i dalu am gostau teithio myfyrwyr, ymchwilwyr ar gam cynnar o’u gyrfa ac athrawon. I wneud cais am un o’r bwrsariaethau hyn, anfonwch neges e-bost at [email protected] yn cynnwys datganiad 250 o eiriau sy’n amlinellu sut y bydd mynychu’r digwyddiad o fudd i’ch dysgu a/neu’ch gyrfa a pham na allwch gael arian o rywle arall. Cynigir bwrsariaethau ar sail y cyntaf i’r felin. Ad-delir costau teithio ar ôl y digwyddiad yn unol â pholisïau teithio BERA.
***
Digwyddiadau BERA: Telerau ac Amodau
British Educational Research Association

[CY] Mae BERA yn gymdeithas aelodaeth ac yn gymdeithas ddysgedig sy’n ymrwymo i wella ansawdd gwaith ymchwil, cynyddu gallu ymchwil a meithrin ymgysylltiad ag ymchwil. Nod BERA yw llywio datblygiad polisi ac ymarfer trwy hyrwyddo tystiolaeth o’r ansawdd uchaf a gynhyrchwyd gan ymchwil i addysg.
[EN] BERA is a membership association and learned society committed to advancing research quality, building research capacity and fostering research engagement. BERA aims to inform the development of policy and practice by promoting the best quality evidence produced by educational research.