100 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.

Teulu yn cerdded ar hyd traeth gyda nos

Ydy eich lleoliad ar Arfordir Cymru?  Neu efallai eich bod yn bwriadu ymweld a dysgu am forlin Cymru gyda’ch dysgwyr?  Os ydych chi am gael syniadau, adnoddau a chanllawiau, mae’r cwrs hwn – sydd am ddim – yn berffaith i chi!

I ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed eleni, ymunwch â ni ar daith gerdded rithwir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a thrwy’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad.  Allai eich dysgwyr helpu i hyrwyddo’r Llwybr drwy ddylunio taflen hyrwyddo neu ysgrifennu cylchlythyr?  Faint o amser fyddai’n ei gymryd i’ch dysgwyr gerdded Llwybr Arfordir Cymru i gyd?  O smyglo i gadwyni bwyd, celf arfordirol i ddysgu am y cynefinoedd a’r tirffurfiau ar hyd arfordir Cymru, ymunwch â ni i ddarganfod y cyfleoedd dysgu trawsgwricwlaidd a’r ymdeimlad cryf o gynefin mae Llwybr Arfordir Cymru’n ei gynnig.  Fydd pob lleoliad sydd yn mynychu’r gweminar yn gymwys i dderbyn cyllid tuag at gostau teithio hyd at £200 i ymweld â’r Llwybr.

Bydd y rhai sy’n bresennol yn derbyn taflen llawn dolenni i adnoddau a gwefannau a fydd yn gwneud dysgu am y pwnc yma’n hawdd, rhyngweithiol, diddorol a difyr.

Adborth ar y cwrs hwn:

Bridie Davies, Partner Cwricwlwm (Dyniaethau) - EAS: Diolch!  Rhai syniadau addysgu gwych. Yn union beth mae athrawon ei angen.

Maria Drummond, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul, Caerdydd: Diolch, llawn gwybodaeth ddefnyddiol.


Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales

Natural Resources Wales Logo

Yn falch o arwain y ffordd at ddyfodol gwell i Gymru trwy reoli'r amgylchedd ac adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Proud to be leading the way to a better future for Wales by managing the environment and natural resources sustainably. 

[email protected]