CYNHADLEDD TECHNOLEG A’R GYMRAEG 2021
Dydd Gwener, 26 Chwefror, 2021 | 09:30 - 15:30
Ar-lein drwy Zoom,
Tocynnau

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau ac offer iaith cyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog.
Mae’r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o offer gwirio iaith eraill.
Mae’n gwneud gwaith safoni termau, ac yn datblygu geiriaduron electronig ar sawl platfform gwahanol gan gynnwys ar ffurf gwefannau ac apiau.
Mae’n datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we.
Mae’r Uned hefyd yn datblygu deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith.
Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â nifer o adrannau academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Cymraeg, Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cymdeithaseg a Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn 2016 bu’r Uned yn un o sefydlwyr Rhwydwaith Ymchwil Technoleg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, sy’n dod ag ymchwilwyr yn y maes hwn at ei gilydd o fewn y brifysgol.
Mae ganddi hefyd gysylltiad agos â byd busnes a diwydiant, ac mae’n ymgymryd â chynlluniau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
Rhaglen Y Gynhadledd
Darperir cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg yn ystod y gynhadledd
Dydd Gwener, 26 Chwefror, 2021, dros Zoom
9.30 Agor y gynhadledd
Gair o groeso gan yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor i Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg i agor y gynhadledd
Anerchiad byr gan Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Sesiwn 1: Agenda a Map Ffordd newydd ar gyfer Cydraddoldeb Ieithyddol Digidol yn Ewrop (ELE)
9.45 Jill Evans, Cyn ASE a Chynigydd y cynnig llwyddiannus i Senedd Ewrop ar Gydraddoldeb Digidol yn yr Oes Ddigidol: Cefndir y penderfyniad i gael Cydraddoldeb Digidol i holl ieithoedd Ewrop erbyn 2030
10.15 Davyth Hicks, Ysgrifennydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Iaith Ewropeaidd (ELEN): The European Parliament’s Resolution on Language Equality in the Digital Age and its importance for Europe’s Lesser Used Languages
10.45 Andy Way, Dirprwy Gyfarwyddwr ADAPT, DCU, Iwerddon, ac Arweinydd project Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop (ELE): Constructing a new agenda and roadmap for Europe to ensure language equality in the digital age by 2030.
11.15 – 11.30 Toriad am baned
Sesiwn 2: Adnoddau Iaith a Lleferydd Newydd technolegau iaith Cymraeg
11.30 Gruffudd Prys, Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor: Piblinell prosesu iaith naturiol newydd ar gyfer y Gymraeg
12.00 Dewi Bryn Jones, Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor: Trawsgrifwr Cymraeg ar gyfer isdeitlo fideos yn awtomatig
12.30 Stefano Ghazzali, Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor: Defnyddio Cyfieithu Peirianyddol Cymraeg/Saesneg i beilota systemau amlieithog ar gyfer cwmnïau bach a chanolig yng Nghymru
1.00 – 1.30 Cinio
Sesiwn 3: Manteision Economaidd Y Gymraeg ac Amlieithrwydd
1.30 Kerry Ferguson (Cyfarwyddwr Marchnata Gwe Cambrian Web Cyf): Creu busnes llwyddiannus o ddatblygu gwefannau dwyieithog
2.00 Richard Sheppard (Interceptor Solutions): Bilingual Software Procurement Guidelines
2.30 Pryderi ap Rhisiart: MSPARC: Economi Gogledd Orllewin Cymru a Thechnoleg Cymraeg
3.00 Tom Burke (Animated Technologies) & Andy Esser (Zero Dependency): Using English/Welsh Bilinguality as a Testbed for a New Multilingual On-line Conferencing System
3.30 Crynhoi, sylwadau clo a chau’r gynhadledd
Uned Technolegau Iaith