Ai dyma’r amser i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru?
Dydd Mercher, 21 Ebrill, 2021 | 18:00 - 19:00
,
Tocynnau
Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi Cymru’n gyntaf. Mae UCAC yn cynnig gwasanaeth proffesiynol cyflawn i’w haelodau. Mae’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol pan fydd angen, gyda grym undebol nerthol wrth ymgyrchu - yn lleol ac yn genedlaethol.
Bydd y Cwrwicwlwm newydd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:
- dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Ond, o gofio heriau penodol y pandemig, ai dyma’r amser i gyflwyno’r cwricwlwm hwnnw? Dewch i ystyried, trafod a dadlau ai dyma’r amser i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru?
UCAC