2 tocyn ar gael

Tocynnau

Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi dechrau. Yn anffodus, nid oes tocynnau bellach ar gael.



Mae’r digwyddiad yma yn berthnasol i gynrychiolwyr o glybiau chwaraeon a chyfleusterau cymunedol sydd â maes parcio.

Mae’r newid o geir petrol a disel i rai trydanol yn digwydd yn gyflym ac mae angen pwyntiau gwefru hygyrch i’r cyhoedd. Nid yw rhan fwyaf o stoc dai Cymru yn addas ar gyfer pwyntiau cartref oherwydd diffyg parcio oddi ar y stryd. Mae trefi a dinasoedd yn dechrau paratoi hefyd, ond ni fydd llawer o gymunedau’r cymoedd yn barod ar gyfer y trawsnewid yma.

Yn aml mae gan glybiau chwaraeon a chyfleusterau cymunedol meysydd parcio sydd ddim yn cael eu defnyddio i’w llawn defnydd, felly os ydych eisiau darganfod mwy o wybodaeth am osod pwyntiau gwefru er budd eich aelodau, eich cymuned ac i gynhyrchu incwm i gefnogi eich adeilad- gan gyfri’r potensial am glybiau ceir cymunedol a beiciau trydanol- yna ymunwch a ni. 


Renew Wales/Adfywio Cymru

Supporting people to act against climate change.  Yn cefnogi pobl i weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd

Renew puts communities in touch with peer mentors who are willing to share their knowledge and experience to inspiresupport and enable others, and stimulate action on climate change at a community level. 

Mae Adfywio Cymru yn cefnogi cymunedau a grwpiau i fynd i'r afael  ag achosion ac effeithiau newid hinsawdd drwy gyngor, hyfforddiant, a mentora. 

info@renewwales.org.uk