Croeso i tocyn.cymru (beta)

Mae tocyn.cymru yn wasanaeth newydd sbon ar gyfer gwerthiant tocynnau arlein.

Os ydych chi’n trefnu digwyddiadau (unrhyw faint ag unrhyw nifer o ddigwyddiadau), yna fe allwch chi ddefnyddio tocyn.cymru i hyrwyddo a gwerthu’ch tocynnau arlein, AM DDIM*.

Wedi’i greu gan ddefnyddio y technolegau gwe diweddaraf mae tocyn.cymru yn brofiad dwyieithog unigryw i chi a’ch mynychwyr.

people crouding around tocyn.cymru logo

Gosodiad syml a chyflym

Fe allwch chi fod yn gwerthu tocynnau ar gyfer eich digwyddiad o fewn munudau.
Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, mae gennych reolaeth lawn i greu a chyhoeddi eich digwyddiad, yn barod i chi ledaenu’r gair, a chael eich mynychwyr i brynu tocynnau.

Tudalen eich digwyddiad- eich ffordd chi

Mae ein hadeiladydd tudalen digwyddiad yn caniatau i chi greu tudalen digwyddiad deniadol, gan ei wneud yn hawdd i chi hyrwyddo’r gorau o’ch digwyddiad.
Nodwch fanylion y digwyddiad, ychwanegwch ddelwedd, efallai fideo hyrwyddo a map rhyngweithiol...popeth sydd eu hangen arnoch i gael yr arnewidiadau holl bwysig hynny.

Dwyieithog / Bi-lingual

Mae tocyn.cymru wedi’i greu o’r cychwyn cyntaf fel gwasanaeth dwyieithog, gyda rheolaeth integredig i ganiatáu rheolaeth hawdd o ddigwyddiadau dwyieithog.
Fel trefnydd, mae gennych reolaeth lawn o’ch iaith rhyngwyneb eich hunan, yn ogystal â sut y cyflwynir eich digwyddiad i ymwelwyr â thudalen eich digwyddiad.

Rhannu, rhannu, rhannu

Mae lledaenu’r newyddion am eich digwyddiad yn allweddol i lwyddiant y digwyddiad, ac mae tocyn.cymru wedi’i greu i gymryd mantais o rwydweithiau cymdeithasol i ganiatau ymwelwyr â’r safle i ledaenu’r gair i chi.

Nid dim ond ar tocyn.cymru

Er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio ar lwyfannau eraill y bydd eich mynychwyr yn eu defnyddio, rydyn ni wedi creu offeryn defnyddiol wedi’i fewnosood sy’n caniatau i chi i fewnosod declyn tocynnau o fewn eich safle eich hun yn hawdd.
Mae’r nodwedd hon ar gael o’ch tudalen digwyddiad hefyd, er mwyn i eraill ei fewnosod yn eu safleoedd hwy!

Sicrhau taliadau arlein

Y cyfan sydd ei angen arnoch ydyw cyfrif Stripe.
Mae’n hawdd i’w osod, ac yn un o’r ffyrdd mwyaf diogel o dderbyn arian oddi wrth eich mynychwyr. Fe fyddan nhw’n diolch i chi am ei wneud mor rhwydd iddyn nhw!

Gosod a gwerthu o unrhyw le

Os ydych chi yn eich swyddfa ar eich bwrdd gwaith, neu ar eich ffôn ar y trên yn mynd i wirio’r lleoliad, fe allwch chi ddefnyddio tocyn.cymru unrhyw le i greu a hyrwyddo’ch digwyddiad.
Clicio neu dapio – nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth i ni.

Traciwch eich digwyddiadau

Mae tocyn.cymru yn caniatau i chi dracio eich gweithgareddau ar eich tudalen digwyddiad mewn da bryd.
Ymwelwyr, arnewidiadau, archebion, tocynnau, mynychwyr...enwch ef, ac fe’i cewch!

Rhywbeth ar goll?

Er bod tocyn.cymru yn barod i chi i’w ddefnyddio heddiw, rydyn ni eisoes yn gweithio ar y cam nesaf, gan ddod â phrofiad gwell hyd yn oed i chi a’ch mynychwyr.
Ewch i’n Bwrdd Datblygu Cyhoeddus i weld yr hyn rydyn ni’n gweithio arno.

AM DDIM? Rydyn ni’n eich clywed yn gofyn.

Fel trefnydd digwyddiad, mae tocyn.cymru yn rhad ac am ddim i chi ddechrau ei ddefnyddio.
Cofrestrwch i gael cyfrif am ddim, ac fe allwch chi ddechrau gwerthu’ch tocynnau, arlein, am ddim*, heddiw.

Os fyddwch chi’n gwerthu tocynnau am bris, yna fe fydd eich cwsmeriaid yn talu ffî archebu bychan am ddefnyddio ein gwasanaeth (2.5% + 0.40c y tocyn).

Os ydych chi’n elusen cofrestredig yn y DU, yna fe wnawn ni hepgor y ffî ar ddigwyddiadau bach, a'i ostwng (disgownt o 50%) ar ddigwyddiadau mawr (capasiti o dros 30).

Ac wrth gwrs fe fyddwn ni’n hepgor y ffî hefyd os yw’ch digwyddiad yn un am ddim!

*Gan ein bod ni'n defnyddio Stripe i brosesu'r taliadau, mi fydda nhw'n codi tâl am i chi ddefnyddio'i gwasanaeth. Fedrwch weld mwy am y ffioedd yma ar ei gwefan Stripe fees.